Prif Gogydd
DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc · Caerdydd, Cymru, GB, cf14 0bb
About The Role
Rhif Cais y Swydd 8744 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £28,600.00 -£28,600.00 Lleoliad Dyddiad cau ceisiadau Llanishen 16 Awst 2026 (23:59) Pwy ydyn ni Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yng ngogledd Caerdydd yn 2023, ac mae ar agor drwy gydol y flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un sy’n awyddus i ymuno â Dŵr Cymru. Mae’r safle’n cynnwys adeilad Atyniad Ymwelwyr o’r radd flaenaf â bwyty sydd â lle i 150, balconi â golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ciwbiclau newid ac ystafelloedd newid ar gyfer grwpiau, gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr, man dysgu/addysg, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a byrbrydau. … Dewch i ymuno â’n tîm a gweithio yn y werddon werdd / las hon sydd llai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Eisiau gweld mwy? Ewch i: <https://lisvane-llanishen.com/> Amdanoch chi Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad hanfodol Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol am fwyd gwych, sy’n mwynhau arwain a datblygu eraill ac sy’n ymrwymedig i ddarparu profiad rhagorol i gwsmeriaid. Bydd gennych: Profiad o weithio mewn amgylchedd arlwyo, caffi neu letygarwch, gydag angerdd am greu prydau o ansawdd uchel gan ddefnyddio cynhwysion ffres, lleol. Gwybodaeth ymarferol am iechyd a diogelwch mewn lleoliad bwyd, manwerthu neu letygarwch. Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a’r gallu i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda chwsmeriaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid o amrywiaeth o gefndiroedd. Profiad o reoli cyllidebau, costiadau bwydlenni, elw gros, trin arian parod a pherfformiad ariannol o ddydd i ddydd. Gwybodaeth am ddiogelwch bwyd, trwyddedu a gofynion rheoleiddio, gan gynnwys safonau hylendid bwyd, gofynion Iechyd yr Amgylchedd a safonau masnach. Profiad o gefnogi, datblygu ac ysgogi tîm i ddarparu gwasanaeth rhagorol a chyflawni nodau cyffredin. Profiad o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau neu wasanaethau lletygarwch llwyddiannus. Profiad o nodi cyfleoedd i dyfu gwerthiant, gwella perfformiad a gwella profiad y cwsmer o fewn gweithrediad bwyd a diod. Profiad amlwg o gynhyrchu bwyd a darparu gwasanaeth o safon uchel yn gyson, gan ganolbwyntio ar ansawdd a boddhad cwsmeriaid. Profiad blaenorol o reoli neu oruchwylio pobl, gan gynnwys hyfforddi, cefnogi a datblygu aelodau o’r tîm. Werth ei wybod Rôl Prif Gogydd yw hon sydd wedi’i chynllunio i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith heb gyfaddawdu ar ansawdd, creadigrwydd neu ddatblygiad gyrfa. Byddwch yn gweithio yn ystod y dydd yn bennaf, rhwng 8:00am a 4:00pm fel arfer, gydag amrywiadau achlysurol yn unig, gan orffen yn hwyrach hyd at ddwywaith yr wythnos (hyd at 10:00pm). Mae gweithio ar y penwythnos yn cael ei rannu’n deg ar draws y tîm, un penwythnos mewn tri ar gyfartaledd, a byddwch yn cael eich rota erbyn y 14eg o bob mis, gan roi digon o amser i chi gynllunio eich ymrwymiadau personol. Byddwch yn gweithio unrhyw bum diwrnod allan o saith ar gontract oriau blynyddol. Mae hyn yn golygu y bydd eich oriau gwaith wedi’u gwasgaru ar draws y flwyddyn i adlewyrchu gofynion tymhorol y busnes, gyda chyfnodau prysurach yn cael eu cydbwyso gan gyfnodau tawelach, tra byddwch yn dal i gael yr un cyflog misol trwy gydol y flwyddyn. Yn wahanol i lawer o rolau lletygarwch, byddwch yn elwa ar beidio â gorfod gweithio shifftiau wedi’u rhannu, gan sicrhau y bydd eich diwrnod gwaith yn fwy cyson a rhagweladwy. Byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar, cefnogol lle mae pobl yn mwynhau gweithio gyda’i gilydd i ddarparu bwyd a gwasanaeth rhagorol mewn amgylchedd trefnus. I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â <[email hidden]> gan ddyfynnu cyfeirnod y swydd sydd i’w weld yn y llinell bwnc. Buddion Mae gennym fanteision gwych, gan gynnwys: · Adolygiad cyflog blynyddol · Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr · Gwisg wedi’i darparu · Lleoliad gwaith hardd · Oriau gwaith hyblyg Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ei amgylchedd hardd yn bwysig iddo. Sylwer, efallai y byddwn yn cau’r rôl hon yn gynt os oes angen. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl cynnig y swydd, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy’n ymuno â’r busnes. Ar gyfer rhai rolau, efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl wiriadau. Byddwch yn cael mwy o wybodaeth am sut i gwblhau’r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.
This is an external listing. JobSpring does not represent or verify the employer. Report this listing
